Ruth 4

Ruth a Boas yn priodi a chael mab

1Aeth Boas i'r llys wrth giât y dre ac eistedd yno. Cyn hir dyma'r perthynas agos roedd e wedi sôn wrth Ruth amdano yn dod heibio. “Gyfaill, tyrd yma,” galwodd Boas arno. “Tyrd i eistedd yma wrth fy ymyl i.” A dyma fe'n dod ac eistedd. 2Wedyn dyma Boas yn cael gafael ar ddeg o arweinwyr y dre, a'u cael nhw hefyd i eistedd gydag e. 3Wedyn dyma fe'n dweud wrth y perthynas agos, “Mae Naomi wedi dod yn ôl o wlad Moab, ac mae hi'n gwerthu'r darn o dir oedd gan Elimelech, ein perthynas ni. 4Roeddwn yn meddwl y dylwn adael i ti wybod, i ti ddweud o flaen y bobl a'r arweinwyr sydd yma os wyt ti am ei brynu. Os wyt ti eisiau ei brynu e, cymera fe, os nad wyt ti gad i mi wybod. Gen ti mae'r hawl cyntaf, ac yna fi ar dy ôl di.”

A dyma'r perthynas yn ateb, “Ydw, dw i am ei brynu.”

5Wedyn dyma Boas yn dweud, “Pan fyddi di'n cymryd y tir, bydd rhaid i ti gymryd Ruth y Foabes hefyd. Ruth ydy gweddw'r dyn sydd wedi marw. Dy gyfrifoldeb di fydd codi etifedd iddo i gadw ei enw ar ei etifeddiaeth.”

6“Alla i ddim ei brynu felly,” meddai'r perthynas, “neu bydda i'n difetha fy etifeddiaeth fy hun.
4:6 difetha fy etifeddiaeth fy hun Byddai'n rhaid iddo adael peth o'r tir oedd ganddo i Ruth yn ogystal â'i deulu ei hun.
Cymer di'r cyfrifoldeb i'w brynu. Alla i ddim.”

7(Dyma oedd y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo'r hawl i brynu eiddo yn ôl: byddai dyn yn tynnu un o'i sandalau a'i rhoi hi i'r llall. b Dyna oedd y ffordd yn Israel o gadarnhau y cytundeb.) 8Felly, dyma'r perthynas agos yn dweud wrth Boas, “Cymer di'r hawl i'w brynu,” a dyma fe'n tynnu ei sandal a'i rhoi i Boas.

9Felly dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon. 10Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi er mwyn codi etifedd i gadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, c rhag i'r enw ddiflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn, heddiw!”

11A dyma'r arweinwyr a phawb arall oedd yn y llys yn dweud, “Ydyn, dŷn ni'n dystion. Boed i Dduw wneud y ferch yma sy'n dod i dy dŷ di yn debyg i Rachel a Lea, y ddwy sefydlodd Israel. A boed i tithau lwyddo yn Effrata, a gwneud enw i ti dy hun yn Bethlehem. 12A thrwy'r ferch ifanc yma mae e wedi ei rhoi i ti, boed i Dduw wneud dy deulu di fe teulu Perets roddodd Tamar i Jwda.”
4:12 Perets Roedd Boas yn un o ddisgynyddion Perets.
e

13Felly dyma Boas yn priodi Ruth ac yn cysgu gyda hi. Dyma'r Arglwydd yn gadael iddi feichiogi, a chafodd fab. 14A dyma'r gwragedd yn dweud wrth Naomi, “Bendith ar yr Arglwydd! Wnaeth e ddim dy adael heb berthynas i ofalu amdanat ti! Bydd e'n enwog yn Israel. 15Bydd e'n rhoi bywyd yn ôl i ti. Bydd e'n gofalu amdanat yn dy henaint. Mae dy ferch-yng-nghyfraith sy'n dy garu di wedi rhoi genedigaeth iddo – ac mae hi'n well na saith mab i ti!”

16A dyma Naomi yn cymryd y bachgen ar ei glin a'i fagu. 17Dyma'r gwragedd lleol yn rhoi'r enw Obed iddo, a dweud, “Mae Naomi wedi cael mab!”

Achau y Brenin Dafydd

Obed oedd tad Jesse a thaid y brenin Dafydd.

18Dyma ddisgynyddion Perets:

Perets oedd tad Hesron,
19Hesron oedd tad Ram,
Ram oedd tad Aminadab,
20Aminadab oedd tad Nachshon,
Nachshon oedd tad Salmon,
21Salmon oedd tad Boas,
Boas oedd tad Obed,
22Obed oedd tad Jesse,
a Jesse oedd tad Dafydd.
Copyright information for CYM